Cimwch.com

 

Taith o amgylch porthoedd De Llŷn            Journey around the coves of South Llŷn

(Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy/Click on photos to enlarge).

 

PWLLHELI

Yn 1293, cofnodwyd 2 gwch a sawl rhwyd ym Mhwllheli.

Yn ei arolwg a gyflawnwyd yn ystod 1737-38 ysgrifennodd Lewis Morris fod yn y bae welyau mawr o lymeirch a digon o bysgod eraill a bod yma bysgodfa benwaig dda yn ystod rhai blynyddoedd.

Ysgrifennodd Edmund Hyde Hall (1810) am y llymeirch, "large in size and excellent in quality. So tenacious, however, is their adherence to the ground, that the time and labour required to raise them render the fishery of them a very unprofitable task."

Y cyfeiriad cyntaf at benwaig yw yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg pan roddwyd mwrwd o benwaig yn rhan o'r tal am ran o dir. Penwaig oedd y pysgodfa bwysicaf hyd at yr 1920s pan ei disodlwyd gan y bysgodfa gimychiaid.

Casglu cocos / Collecting cockles

   

Pwllheli, 1891

 

Râs y nobbies / Nobby race

PWLLHELI

In 1293, 2 boats and several nets were recorded in Pwllheli.

Lewis Morris wrote, in his survey of St. George's Channel carried out during 1737-38, "In this bay are large Beds of Oysters, and plenty of other Fish, and some years they have a good Herring fishery here."

 Edmund Hyde Hall (1810) also wrote about the oysters, "large in size and excellent in quality. So tenacious, however, is their adherence to the ground, that the time and labour required to raise them render the fishery of them a very unprofitable task."

The earliest reference to herring is from the 13th century when a mease of herring was given in part payment for the lease on a piece of land. Herring remained the most important fishery until the 1920s when it was superseded by the lobster fishery.

 

LLANBEDROG

Dywedwyd bod dau gwch dal penwaig yn mynd allan o'r traeth. Angorwyd un cwch cwella proffesiynol yn y bae o'r Ail Ryfel Byd ymlaen hyd y 1990au. 

Yn y llun cyntaf mae rhwydi i'w gweld yn sychu o flaen yr Hen Dai.

 

Hen Dai / Boathouse

 

Llanbedrog, 1917

 

Llanbedrog, 2002

 

LLANBEDROG

Two herring boats were reported to work off the beach. One full time lobster boat was moored out in the bay from the Second  World War until the 1990's.

In the first photograph, nets can be seen drying in front of the Boathouse.

ABERSOCH

Roedd yma rai nobbies yn dal penwaig i'w bwyta'n lleol.

 

Porth Bach

 

Abersoch

 

ABERSOCH

There were several nobbies here catching herring mainly for local consumption.

RHUOL, PORTH NEIGWL

Y Rhuol yw'r unig lanfa ar draeth Porth Neigwl ac ychydig o latheni'n unig rhwng y cerrig yw'r fynedfa.

 

Hen lun o'r Rhuol

 

Rhuol heddiw/today

 

RHUOL, HELL'S MOUTH

Rhuol is the only landing place on Hell's Mouth beach and is accessed through a channel through the boulders that is only a few yards wide.

ABERDARON

Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg allforiwyd rhai penwaig o Aberdaron i'r Iwerddon ac i Gaer ond bwytawyd y rhan fwyaf yn lleol.

Erbyn 1810, sylwodd Hyde Hall bod rhai cychod yn pysgota am benwaig yn ystod y tymor. Clywodd hefyd am Richard Roberts (Dic Aberdaron), yr ieithydd a mab i bysgotwr a welwyd yn darllen yn y cwch yn ystod ei daith i'r farchnad pysgod yn Lerpwl.

Cychod ar draeth Aberdaron/Boats on Aberdaron beach

ABERDARON

During the 16th century, some herring was exported to Ireland and Chester but the majority went for local consumption.

Hyde Hall (1810) noticed that, "some boats are employed during the season in the herring fishery." He also heared of Richard Roberts (Dic Aberdaron), the linguist son of a fisherman who was was seen reading in his boat during his trips with his father to Liverpool fishmarket.

 

PORTH MEUDWY

Ychydig i'r gorllewin o draeth Aberdaron y mae Porth Meudwy. Y mae'n le llawer mwy cysgodol i roi cwch yn y dŵr na'r traeth. Bellach, o'r borth hon y mae'r rhan fwyaf o gwellwyr Aberdaron yn gweithio.

Porth Meudwy, yw cartref cychod traddodiadol Aberdaron, y mwyafrif wedi eu hadeiladu gan John Thomas.

 

Porth Meudwy - gyda nifer o gychod Aberdaron i'w gweld./a number of Aberdaron boats can be seen.

 

"Pedryn" -a'i hwn yw'r cwch ar gyfer y dyfodol / is this the boat for the future.

 

PORTH MEUDWY

A little to the west of Aberdaron beach lies the cove of Porth Meudwy. It is a much more sheltered site for boat launching. Today, most of the Aberdaron lobster potters work from here.

Porth Meudwy is the home of the traditional Aberdaron boat, built mostly by John Thomas.

 

YNYS ENLLI

Ysgrifennodd Bingley (1800), "Collecting of lobsters and crabs occupied most of the time of the inhabitants of Bardsey Island."

Dywedodd Hyde Hall (1810) fod cwch Enlli i'w weld yn carrio pysgod a ieir i Lerpwl.

Ysgrifennodd Davies (1884), "everyone from the King of Bardsey downwards obtain a livelyhood from tilling the land and lobster fishing."

Y Cafn yw glanfa Ynys Enlli ac ychydig iawn a fu'r newid dros y blynyddoedd.

Trwy'r canrifoedd roedd gan drigolion Enlli gwch ar gyfer croesi i'r tir mawr ac i fordwy cyn belled a Lerpwl.

 

 

Cafn, 1886

Cafn, 1912

Cafn,

Cafn, 1955

 

 

 

BARDSEY ISLAND

Bingley (1800) wrote that, "collecting of lobsters and crabs occupied most of the time of the inhabitants of Bardsey Island."

Hyde Hall (1810) said that the Bardsey boat could be seen carrying fish and poultry to Liverpool.

Davies (1884) wrote, "everyone from the King of Bardsey downwards obtain a livelyhood from tilling the land and lobster fishing."

The Cafn is the landing place on Bardsey Island and there has been little change over the years.

Through the ages, the inhabitants of Bardsey had a boat which they used to reach the mainland and to voyage as far afield as Liverpool.

ENGLYN I GWCH ENLLI

Caseg oer waneg wŷr heini-i ddŵr

O Ddaron i Enlli

Gwaelgwch yn llamu gweilgi

A phren yw hôl ei ffrwyn hi.

gan

Richard Hughes (marw c.1618)

 Cefnllanfair, Llanbedrog.

 

 

Cwch Enlli yn cychwyn o draeth Aberdaron/Bardsey boat setting off from Aberdaron beach.

 

 

Diolch i Owen Roberts am y llun o harbwr Pwllheli yn 1891 a'r llun o'r râs nobbies. Diolch hefyd i Rhiw.com am y lluniau canlynol; hen lun o'r Rhuol, cychod ar draeth Aberdaron, Cafn Enlli - 1886, 1912, a chwch Enlli'n cychwyn o draeth Aberdaron.

Our thanks to Owen Roberts for the photograph of Pwllheli harbour in 1891and the photograph of the nobbies racing. Thanks also to Rhiw.com for the following photographs; the old photograph of Rhuol, boats on the beach at Aberdaron, Cafn Enlli - 1886, 1912, and the Bardsey boat setting off from Aberdaron beach.

 

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004