Cimwch.com
Mordwyo o amgylch Llŷn / Navigation around Llŷn
Dyma ychydig o hanes rhai o'r nodweddion mordwyol ar hyd arfordir Llŷn. / Here is a little of the history of some of the navigational features along the coast of Llŷn.
Goleulong Bae Ceredigion Gosodwyd Goleulong Bae Ceredigion yn 1860 gan Trinity House yn lle y bwi di-olau a fu'n arwydd ar ben deheuol Sarn Badrig ers 1842. Yn 1910, rhoddwyd bwi â golau arno yn lle y goleulong.
|
Bwi Pen Sarn / Causeway Buoy |
Cardigan Bay Lightship The Cardigan Bay lightship was introduced by Trinity House in 1860 to replace the unlit buoy which had marked the southern end of St. Patrick's Causeway since 1842. The lightship was replaced by a lighted buoy in 1910. |
Goleudu Ynys Orllewinol St. Tudwal Adeiladwyd goleudy a thai i'r ceidwaid yn 1877 ar ynys orllewinol St. Tudwal. Talwyd £111 gan Trinity House am y tir. Y ceidwad cyntaf oedd J. Gentry. Yn 1922, addaswyd y golau i weithio ag acetylene. Nid oedd bellach angen ceidwaid a gwerthwyd y tai yn 1935. |
Goleudy Ynys Orllewinol St. Tudwal / St. Tudwal's Island West Lighthouse |
St. Tudwal's Island West Lighthouse The lighthouse and dwellings for the keepers were erected on St. Tudwal's Island West in 1877. Trinity House paid £111 for the land. The first keeper was J. Gentry. The light was converted to acetylene operation in 1922. Keepers were no longer required and the dwellings were sold in 1935. |
Bwi Carreg y Trai |
Bwi Cloch Carreg y Trai / Half Tide Rock Bell Buoy |
Half Tide Rock Buoy |
Goleudy Ynys Enlli Tra'n ailargraffu siartiau'i dad, Lewis Morris, yn 1801, awgrymodd William Morris y dylid adeiladu goleudy ar Ynys Enlli. Derbyniwyd ei awgrymiad gan Trinity House ac fe gwblhawyd y goleudy yn 1821. Cymerwyd blwyddyn gron i'w adeiladu. Dyliniwyd y goleudy, twr sgŵar 99 troedfedd o uchder, gan Joseph Nelson. Cost yr adeilad oedd £5,470 12/6 gyda £2,950 16/7 am y lamp. Ychwanegid niwlgorn yn 1878. Ceidwad cynta'r goleudy oedd James Vanston o Ddyfnaint. Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd yn parhau'n geidwad gyda'i gymhorthydd, George Lewis, 20 oed, a'r forwyn, Eliza Cook, 25 oed. Erbyn 1851, George Lewis oedd y prif geidwad. Roedd y goleudy'n cael ei gynnal a'i gadw drwy ddefnyddio'r "Bardsey Light Tender." Roedd meistr cynta'r "Tender" yn ynyswr, Thomas Williams. Wrth ddychwelyd i Enlli o Aberdaron, fe darodd y "Tender" yn erbyn carreg ger yr ynys a collodd Thomas Williams ynghyd a'i ferch Sydney, 20 oed, a phedwar arall eu bywydau. Maent wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys, Aberdaron. Olynwyd Thomas Williams gan ynyswr arall, John Williams a ddaeth yn Frenin Enlli. Fe fu yntau hefydd foddi yn 1841. |
Y Goleudy o'r Cafn / The Lighthouse from Cafn |
Bardsey Island Lighthouse In 1801, William Morris, while reprinting his father Lewis Morris's charts, suggested that a lighthouse should be built on Bardsey. His suggestion was acted upon by Trinity House and a lighthouse was completed in 1821. It had taken exactly one year to build. The lighthouse, a 99ft high square tower, was designed by Joseph Nelson. It cost £5,470 12/6 to build and a further £2,950 16/7 for the lamp. A foghorn was added in 1878. The first lighthouse keeper was James Vanston from Devon. According to the 1841 census, he remained the keeper together with his assistant, George Lewis, aged 20, and a maid, Eliza Cook, aged 25. By 1851, George Lewis had become the head lighthouse keeper. The lighthouse was maintained using the Bardsey Light Tender. The "Tender's" first master was an islander, Thomas Williams. While returning to Bardsey from Aberdaron on 30th November, 1822, the "Tender" struck a rock off the island and Thomas Williams together with his daughter Sydney, aged 20, and 4 others lost their lives. They are buried in the churchyard at Aberdaron. Thomas Williams was succeeded as master of the "Tender" by another islander, John Williams, who became King of Bardsey and was himself drowned in 1841. |
Goleulong Bae Caernarfon Ysgrifennodd J.T Williams, Pistyll, tad Twm Nefyn y pregethwr, y gerdd hon i'r oleulong. |
Hen Lightship Caernarvon Bay Dyma long sydd yn ei hun-fan Yn ei "mhan" mae'i phwrpas hi Pe symudai chydig raddau Hi beryglai llongau'r lli; Rhaid yw cadw ei hangorion Gyda chyson ofal llwyr, Pe symudent, neu pe'n tori Faint a foddi - pwy a wyr?
Nid i ddwylaw yr oleulong B'ai'r peryglon oll i gyd, Gallent hwy fod yn ddiangol, Trwy ryw wyrthiol ffordd 'run pryd; Llongau eraill gawsai'r golled, Methu gweled ffordd i fynd, Unig neges LLONG Y GOLAU Bod i eraill longau'n ffrind.
Yn nhywyllwch nos gaddugawl Eirwawl oleu ddengys hon, Trwy ei golau gwel y llongau Ffordd i'w manau tros y don; Yn y dydd, pan bo y niwlon Yn gorchuddio'r don a'r nef, Clywir llais ei niwlgorn deulais, Ymgais ddweud y ffordd a'i lef.
Rhaid i'r dwylaw fod yn effro, Rhaid yn gwylio nos a dydd, Dros rai eraill yn y tywydd, Eraill beunydd iddynt sydd Gyfrifoldeb nas gollyngant Ergyd amrant tros eu co', Yn y ddrychin aros allan, Pwyntio i'r Hafan lle ceir ffo.
Dyna neges yr "Oleulong," Llongau raill yw ei nhod, Aros yn nrychinoedd gaeaf - Glewaf arwyr sydd yn bod; Aros yn nhawelwch hafddydd, Pan bydd pawb yn mynd am dro, Aros ar y gorwel unig O swn adlais adar bro. J.T Williams, Pistyll. |
Caernarfon Bay Lightship J.T. Williams, Pistyll, the preacher Twm Nefyn's father, wrote this poem about the lightship. |
Copyright © Cimwch.com 2004