Cimwch.com

 

ADNODDAU O'R MÔR                                           RESOURCES FROM THE SEA

 

Arferai trigolion Pen Llŷn fanteisio ar yr holl adnoddau â oedd gan y môr i'w gynnig iddynt. Dyma engreifftiau o'r defnyddiau mwy anghyffredin efallai.

The people of Llŷn took advantage of all the resources that the sea had to offer them. These are some examples of the perhaps more unusual uses.

 

MORGATH DDU

Defnyddid yr iau i wneud olew oedd yn llesol at grydcymalu.

 

  STINGRAY

An oil which was beneficial for rheumatism was made out of the liver.

 

PENWAIG

Cannwll frwyn

Toddid tagellau penwaig a defnyddio eu saim at wneud canwyllau brwyn. Roedd yn rhaid plicio'r croen gwyrdd i ffwrdd oddi ar y frwynen i gyd gan adael ond un llinell fain i gynnal y cnewllyn gwyn. Wedyn trochi y cnewllyn mewn saim er mwyn gwneud y gannwyll.

 

Gwrtaith

Defnyddid penwaig yn wrtaith ar y tir pe delid gormodedd ohonnynt.

 

  HERRING

Rush candles

The herring gills were heated and their fat was used in rush candlemaking. All the green skin was peeled off a rush leaving only one thin line to support the white pith. The pith was then dipped in the herring gill fat and the completed candle was placed in a suitable holder.

 

Fertiliser

Herring were used as fertiliser on the land when there was a glut of them.

YSTIFFLOG

Casglu ystifflogod wedi marw i fwydo i'r ieir er mwyn cryfhau plisgod eu wyau.

 

Ystifflog / Cuttlefish

CUTTLEFISH

Dead cuttlefish washed up on the tideline were collected and fed to hens to strengthen their egg shells.

GWYMON

Defnyddid gwymon yn wrtaith ar y tir.

 

Cais Gwilym y Rhos ar ei ran ei hyn ac eraill at Robert Evans, Methlem, am ganiatâd i groesi ei dir er mwyn mynd i draeth Porth Oer am lwyth o wymon a sached o dywod:

Mae Wil y crydd ac Ifan

Yn mofyn llwyth o wman,

A hwnnw’n wman heb ei ail

I bydru tail mewn toman,

A bagiad bach o dywad

Yn ôl yr hen arferiad

I Neli’i roi o hyd y llawr,

Rhag cwilydd mawr i’w welad.

  SEAWEED

Seaweed was used on the land as a fertiliser.

Gwilym y Rhos wrote a poem on behalf of himself and others to ask Robert Evans, Methlam, for permission to cross his land to go to Whistling Sands for a load of seaweed and a sackfull of sand.

 

TYWOD

Roedd yn hen arferiad i roi tywod ar loriau’r hen fythynod er mwyn i’r tywod wynnu ychydig ar wyneb y llawr pridd.

 

  SAND

Sand was scattered over the floors of the old cottages to whiten the earth floors.

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004