Dyddiadur 2009

2009 Diary

 

Dyma ddyddiadur o'r gweithgareddau ym mhysgodfeydd Llŷn yn ystod 2009.

Here is a diary of activities in the fisheries of Llŷn during 2009.

 

Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy / Click on photos to enlarge.

 

Ionawr

Traillrwydo cregyn bylchog (Pecten maximus) ym Mae Ceredigion.

Mae mwy nag arfer o'r dull yma o bysgota yn digwydd eleni gyda mewnlifiad o gychod mawr  diarth i'r ardal.

 

Cwch traillrwydo cregyn bylchog / Scallop dredger

Cragen fylchog / Scallop (Pecten maximus)

January

Scallop (Pecten maximus) dredging in Cardigan Bay.

There is more of this fishing activity than usual with an influx of large visiting vessels to the area.

Chwefror

BM166

Parhau mae'r traillrwydo cregyn bylchog (Pecten Maximus) ym Mae Ceredigion.

"St Amant" BA101

24ain - Doedd y traillrwydo ddim yn tarddu ar haid o dros hanner cant o forhychod yn y Bae.

 

"Natalie B" H1074

Dolphin

"Philomena" TN37

 

February

"Betty G" E535

Scallop (Pecten Maximus) dredging continues in Cardigan Bay.

"Saturnus" WD47

24th - The scallopers were not disturbing the 50+ strong pod of dolphins in the Bay.

Mawrth

1af -  Tynais y llun hwn o Fynydd Mawr ac Enlli o ben Mynydd Anelog wrth i'r haul fachlud ar Ddydd Gwyl Dewi.

Bydd drudwyod (Sturnus vulgaris) yn casglu fin nos ger Traeth Castellmarch, Abersoch. Tywyllu mae'r awyr wrth i'r drudwyod hedfan mewn ehediadau crwn neu hir.

 

Dydd Gwyl Dewi / St David's Day Mynydd Mawr ac Enlli o/from Fynydd Anelog

Drudwyod yn casglu / Starlings gathering

 

March

1st - This photo was taken of Mynydd Mawr and Bardsey Island at sunset on St David's Day.

Starlings (Sturnus vulgaris) gather in their hundreds and then thousands at dusk near Castellmarch beach, Abersoch. The sky darkens as the starlings fly in tight ball and ribbon shaped formations.

Ebrill

20ed - Pigwyd dyn yn ei fawd gan wiber ger traeth Llanbedrog. Roedd ar helfa drysor efo'i deulu pan welodd dair wiber a gafaelodd yn un. Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd a derbyniodd wrth-wenwyn.

28ain - Gwelais y wennoliaid am y tro cyntaf elenni.

Ffrynt olau leuad / Moonlit front

April

20th - A man was bitten by an adder near Llanbedrog beach. He was on a treasure hunt with his family when he saw three adders and picked on of them up. He was taken to Ysbyty Gwynedd and given anti-venom.

28th - I saw my first swallows of the year.

Mai

11ed - Cynhaliwyd râs gychod gwyllt ym Mhwlleli. Gohurwyd y râs am tua hanner awr oherwydd bod morlo ar y cwrs.

"Heights of Abraham"

25ain - Mae'r allt hon wedi'i gorchuddio gan glychau'r gog i'w gweld oddi ar y ffordd ger Aberdesach.

Ynys Enlli yn y niwl / Bardsey Island in fog

29ain - Niwl trwchus ar y môr rhwng ym Mae Caernarfon a haul braf ym Mae Ceredigion.

31st - Clywsom y gog am y tro cyntaf elenni.

Daeth y tywydd braf yn ystod wythnos diwetha'r mis â miloedd o'r sglefren fôr Aurelia aurita i draethau Llŷn.

 

Râs y cychod gwyllt - Honda Formula 4-Stroke - powerboat race, Pwllheli

Ennillydd y rasus -  225hp races - winner, Cologne, Yr Almaen / Germany

Clychau'r gog / Bluebells

Aurelia aurita

May

11th - The Honda Formula 4-Stroke powerboat race was held at Pwllheli. The race was delayed for about half an hour due to a seal on the course.

"Vortigern"

25th - This fantastic bluebell covered slope can be seen from the road near Aberdesach.

Ynys Enlli yn y niwl / Bardsey Island in fog

29th - Thick fog at sea in Caernarfon Bay with bright sunshine in Cardigan Bay.

31st - We heard the cuckoo for the first time this year.

The warm weather during the final week of May brought thousands of the jellyfish Aurelia aurita to the beaches of Llŷn.

Mehefin

Mae llawer o grancod heglog (Maja squinado) wedi cyrraedd arfordir Llŷn. Mae'r cewyll yn llawn ohonnynt ac mae rhai i'w gweld ar y traethau.

18ed - Gwelwyd y ci glas marw hwn ar draeth Llanbedrog

21ain - Heddiw yw diwrnod hiraf y flwyddyn. Roedd cannoedd o sglefrod môr mawr (Rhizostoma octopus) wedi eu golchi i'r lan ar draeth Tŷ'n Tywyn.

 Rhizostoma octopus pair

30ain - Roedd llif o'r sglefren fôr Aurelia aurita yn cael ei chludo gan y llanw ger Trwyn Cilan.

 

Cranc heglog / Spider crab (Maja squinado)

Ci glas / Tope (Galeorhinus galeus)

(Rhizostoma octopus) - Tŷ'n Tywyn

Aurelia aurita ger Trwyn Cilan / off Cilan Head

 

June

Many spider crabs (Maja squinado) have reached the Llŷn coast. The lobster pots are full of them and some are seen on the beaches.

18th - This dead tope was seen on Llanbedrog beach.

21st - Today was the longest day of the year. Hundreds of large jellyfish (Rhizostoma octopus) were washed up on the Warren beach.

Rhizostoma octopus

30th - A stream of the jellyfish Aurelia aurita  was carried by the flood tide off Cilan Head.

Gorffennaf

1af - Gwelsom bysgotwyr ar y Judy B yn dal ci glas (Galeorhinus galeus) ger Ynys Enlli.

10ed - Daeth y "Red Arrows" i Wakestock.

 

(Lluniau'r Red Arrows gan Richard Hughes)

17eg - Gwelsom o leiaf 6 o forhychod (dolffyniaid) ger Porth Ceiriad, Abersoch.

27ain - Daeth olion y "Fossil" i'r wyneb ar Draeth Castellmarch ac roedd i'w gweld ar y trai y bore yma. Smac 38 tunnell a adeiladwyd ym Mhwllheli yn 1851 ydoedd. David Davies oedd ei pherchennog ac fe'i collwyd ar Draeth Castellmarch 14eg Hydref, 1902.

 

Ci glas / Tope (Galeorhinus galeus) ger Ynys Enlli / near Bardsey Island

The Red Arrows

Morhwch / Dolphin, Porth Ceiriad

"Fossil"

 

July

1af - We saw fishermen aboard Judy B catch a tope (Galeorhinus galeus) near Bardsey Island.

10th - The Red Arrows came to Wakestock.

 

(Red Arrow photographs by Richard Hughes)

17th - We saw at least 6 dolphins off Porth Ceiriad, Abersoch.

27th - The remains of the "Fossil" have appeared on Castellmarch Beach and were visible this morning at low water. "Fossil" was a 38 ton smack built at Pwllheli in 1851. She was owned by David Davies and wrecked on the Castellmarch/Warren beach, on 14th October, 1902.

Awst

8th - Gwelwyd y llyngeryn parasitig hwn mewn draenog y môr a ddalliwyd ger Criccieth. Llyngeryn penfras neu forlo (Phocanema decipiens) ydyw

12ed - Dim byd tebyg i Land Rover!

Llyngeryn penfras / Cod or Seal worm (Phocanema decipiens)

 a) ym mherfeddyn draenog y môr / in the gut of a sea bass

b) yn wal y perfedd / in the wall of the gut

Marchros, Abersoch

August

8th - This parasitic worm was seen in a bass taken off Criccieth. It is the cod or seal worm (Phocanema decipiens).

12th - Nothing like a Land Rover!

Medi

10ed - Nofiodd yr hen forlo hwn at ein cwch ger Trwyn Cilan. Roedd wedi colli ei olwg yn y lygad dde ac yr oedd ganddo friw newydd ar ei wddf. Meddyliom ei fod am neidio i'n cwch

Wedi colli ei olwg yn y lygad dde / Lost his sight in the right eye

Richard a'r morlo / Richard and the seal

 

September

10th - This large old grey seal swam up to our boat off Cilan Head. He had lost the sight in his right eye and had a fresh wound on his neck. We thought that he was going to jump into our boat.

Briw diweddar ar ei wddf / Fresh wound on neck

Hydref

5ed - Cimyches fawr wedi ei nodi ar un adeg yn cael ei dal ger Porth Ysgaden.

17eg - Roedd morlo bach marw heb ben yn un o'r creaduriaid a olchwyd i'r lan ar draeth Porth Neigwl.

Aderyn drycin Manaw / Manx Shearwater (Puffinus puffinus)                                                           

Cimyches / Female lobster

Morlo bach marw / Dead seal pup

 

October

5th - A large female lobster that had once been V-notched was taken off Porth Ysgaden.

17th - A headless seal pup was one of the creatures washed up on Hell's Mouth.

Lepas anatifera

Tachwedd

Llifogydd/Floods, Riverside

14eg - Wedi glaw trwm a llanw uchel roedd llifogydd ar y ffordd rhwng Llanbedrog a Phwllheli.

Llifogydd/Floods, Pont Rhyd John, Llanbedrog

16eg - Gwelais bysgodyn gwyn (Merlangius merlangus) wedi ei olchi i'r lan ar draeth Llanbedrog.

17eg - Gwelais ddraenog y môr wedi ei fasgu mewn rhwyd ac yr oedd y draenog wedi hanner llyncu y penog hwn a oedd yn 22cm o hyd.

19eg - Dau filidowcar ac un trochydd mawr wedi eu masgu mewn rhwyd draeth ym Morfa Nefyn gan i lawer o adar y môr gael eu gyrru tua'r lan gan y gwyntoedd cryfion.

25ain - Parhau mae'r gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm. Pysgodyn gwyn (Merlangius merlangus) arall wedi ei olchi i'r lan ar draeth Llanbedrog.

30ain - Yr eira cyntaf i'w weld ar fynyddoedd Eryri.

 

Penog o geg draenog y môr / Herring from inside a bass's mouth

Pysgodyn gwyn / Whiting (Merlangius merlangus)

Great Northern diver / Trochydd mawr (Gavia immer)

Yr eira cyntaf ar Eryri / First snow over Snowdonia

Yr Wyddfa / Snowdon

November

Llifogydd/Floods, Pont Rhyd John, Llanbedrog

14th - The road between Llanbedrog and Pwllheli was flooded following heavy rain and a high tide.

Llifogydd/Floods, Riverside, Pwllheli

16th - I saw a whiting (Merlangius merlangus) washed up on the beach at Llanbedrog.

17th - This 22cm long herring was seen half swallowed by a bass taken in a gill net.

19th - Two cormorants and a great northern diver were enmeshed in a beach net at Morfa Nefyn as seabirds are driven close to the coast by the strong winds.

25th - The strong winds and heavy rain continue. Another whiting (Merlangius merlangus) washed up on Llanbedrog beach.

30th - The first snow could be seen on the mountains of Snowdonia.

Rhagfyr

2ail - Y gwyntoedd cryfion yn parhau a physgodyn gwyn (Merlangius merlangus) arall wedi ei olchi i'r lan ar draeth Llanbedrog.

10ed - Y gwyntoedd cryfion yn parhau ac adar meirw wedi eu golchi i'r lan ar draeth Tŷ'n Tywyn.

Gannet / Gŵydd y weilgi / (Sula bassana)

18ed - Rhwydi traeth wedi eu gosod ar draeth Aberdesach wedi dal draenogiaid a mingryniaid.

Mingrwn / Mullet

Bu mwy o rwydo traeth nag arfer y flwyddyn hon. Efallai fod hyn yn adlewyrchu cyflwr gwael yr economi wrth i bobl geisio cael arian at y Nadolig.

19eg - Tywydd oer ac eira wedi disgyn dros nos.

25ain - Bore dydd y Nadolig, sglefren fôr (Rhizostoma octopus) wedi dod i'r lan ar draeth Llanbedrog.

28ain - Amryw o gregyn bylchog (Pecten maximus) gweigion wedi eu golchi i'r lan o dan Cae'r Plan rhwng Carreg-y-Defaid a Phwllheli.

31ain - Tynnwyd y llun hwn o ddiffyg rhannol ar y lleuad o Lŷn am ddeng munud wedi saith yr hwyr.

BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB YN 2010

Rhwyd draeth - Aberdesach - beach net

Eira - Llanbedrog - snow

Cytiau glan y môr yn yr eira / Beach huts in the snow

(Rhizostoma octopus) - Llanbedrog

Cragen fylchog / Scallop (Pecten maximus)

Diffyg rhannol ar y lleuad / Partial lunar eclipse

December

2nd - The strong winds continue and another whiting (Merlangius merlangus) was washed ashore on Llanbedrog beach.

10th - The strong winds continue and dead seabirds were washed ashore on Tŷ'n Tywyn / Warren beach.

Shag / Mulfran werdd / (Phalacrocorax aristotelis)

18th - Beach nets set on Aberdesach beach had taken bass and mullet.

Draenog y môr / Bass

There has been more beach netting than usual this year. Perhaps this reflects the poor state of the economy as people attempt to make money for Christmas.

19th - Cold weather and a snowfall during the night.

25th - Christmas morning, a large jellyfish (Rhizostoma octopus) washed up on Llanbedrog beach.

28th - Several empty scallop (Pecten maximus) shells washed ashore below Cae'r Plan between Carreg-y-Defaid and Pwllheli.

31st - This partial lunar eclipse was photographed from Llŷn at 1910 hours.

A HAPPY NEW YEAR TO YOU ALL IN 2010

Top

 

Cartref        Home

 

Hawlfraint/Copyright © Cimwch.com 2009