Cimwch.com

 

Dyddiadur 2007

2007 Diary

 

Dyma ddyddiadur o'r gweithgareddau ym mhysgodfeydd Llŷn yn ystod 2007.

Here is a diary of activities in the fisheries of Llŷn during 2007.

 

Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy / Click on photos to enlarge.

 

Ionawr

17eg - Gwyntoedd cryfion hyd at 73 morfilltir yng Nghonwy.

29ain - Ymwelodd Llywydd y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, â chwch y Pwyllgor Pysgodfeydd, Yr "Aegis."

Conwy 17/1/07

F.P.V. "Aegis"

January

17th - Strong winds gusting to 73 knots at Conway.

29th - The Presiding Officer of the Assembly visited North Western & North Wales Sea Fisheries Committee's patrol boat F.P.V "Aegis."

Chwefror

Bu Chwefror yn fis ystormus ac ni chafwyd fawr iawn o dywydd pysgota.

Porth Fawr, Abersoch

February

February was a stormy month and there was very little good weather for fishing.

Mawrth

6ed - Golchwyd morfil pigfain ieuanc 12 troedfedd o hyd i'r lan ar draeth Afonwen. Tybir bod y morfil tua tri mis oed. Er ymdrechu'n galed iddo nofio yn ôl allan i'r môr, ei ladd fu rhaid.

Sefydlwyd Cymdeithas Cawellwyr Llŷn er mwyn sicrhau cynrychiolaeth gref i gawellwyr yr ardal.

Minke whale / Morfil pigfain (Balaenoptera acutorostrata), Afonwen

March

6th - A young minke whale about 12ft long was washed ashore at Afonwen. It is thought that the whale was about 3 months old. Despite every effort to get it to swim back out to sea, it had to be put down.

The Llŷn Potters Association was set up to ensure a strong representation for the area's potters.

Ebrill

3ydd - Eleanor Burnham, AC, yn ymweld â chwch y Pwyllgor Pysgodfeydd, Yr "Aegis."

22ain - Clywais y gôg am y tro cyntaf eleni.

Eleanor Burnham AM - FPV "Aegis"

April

3rd - Eleanor Burnham, A.M., visited North Western & North Wales Sea Fisheries Committee's patrol boat F.P.V "Aegis."

22nd - Heared the cuckoo for the first time this year.

Mai

2ail - Draenog 11¾ pwys yn cael ei ddal ger Pwllheli.

19eg - Gwelais wiber ger Porth-y-Gest.

Pysgotwyr / Fishermen, Tywyn

May

2nd - 11¾ bass caught near Pwllheli.

19th - Saw an adder at Borth-y-Gest.

Mehefin

21ain - y diwrnod hiraf.

Dinas Dinlle - Machlud y diwrnod hiraf / Sunset on the longest day

June

21st - The longest day.

Gorffennaf

19eg - Cyw drycin uwchben Bae Ceredigion yn arwydd tywydd mawr. Bu glaw trwm yn ystod y nos a dranoeth.

Haf gwael iawn hyd yn hyn gyda llawer o wynt a glaw. Y diwrnod yma y llynedd oedd un o'r dyddiau poethaf erioed.

21ain - Gwnaeth y glaw trwm ddifetha Wakestock, yr ŵyl fyrddio a gynhelir ar safleoedd ym Mhwllheli, Penrhos ac Abersoch.

28ain - Cystadleuaeth pencampwriaeth y byd ar gyfer cychod "Cadets" yn dechrau ym Mhwllheli.

Nefyn, Porthdinllaen ac Iwerddon / Nefyn, Porthdinllaen & Ireland

Cyw drycin / Short rainbow

Wakestock 2007

Pencampwriaeth Cadets y Byd / Cadets' World Championship

July

19th - A short rainbow above Cardigan Bay is a sign of bad weather. Heavy rain followed during the night and the following day.

A very poor summer so far with lots of wind and rain. This day last year was one of the hottest days on record.

21st - Wakestock, the wakeboarding festival held at venues at Pwllheli, Penrhos and Abersoch, was a washout this year.

28th - The "Cadets" world championship begins at Pwllheli.

Pysgotwyr / Anglers, Pwllheli

Awst

13eg - Haig o fecryll yn harbwr Pwllheli.

Haig o fecryll - Pwllheli - mackerel shoal

August

13th - A shoal of mackerel in Pwllheli harbour.

Medi

12ed - Ychydig o fecryll yn cael eu dal ger Trwyn Cilan a merfogiaid du ger Pwllheli.

29ain - Dadorchuddiwyd topograph yn enwi mynyddoedd Eryri ar Fynydd Tir-y-Cwmwd, Llanbedrog.

JB a Rob Humphreys yn dadorchuddio'r topograff

Dal mecryll / Mackereling - "Shockwave" - Trwyn Cilan

Merfog du / Black seabream - "Equus" - Pwllheli

September

12th - A few mackerel taken off Cilan Head and black seabream off Pwllheli.

29th - A topograph illustrating the mountains of Snowdonia was unveiled on Mynydd Tir-y-Cwmwd, Llanbedrog.

The Topograph

Hydref

5ed - Mae coedwig ffosil Castellmarch wedi bod yn y golwg drwy'r haf sydd yn anghyffredin iawn.

18ed - Gwelais ddau lwynog  ger eglwys Llandecwyn, Meirionnydd.

Coedwig ffosil - Castellmarch - fossil forest

Llwynogod / Foxes

October

5th - The Castellmarch fossil forest has been visible throughout the summer which is very unusual.

18th - These two foxes were near Llandecwyn church, Meirionnydd.

Tachwedd

15ed - Y cwch treillrwydo "Albion" DS10 yn pysgota cregyn bylchog ym Mae Ceredigion.

23ain - Cawella corgimychiaid (Palaemon serratus) ger Afonwen, Gogledd Bae Tremadog. Fel arfer, mae'r bysgodfa hon yn dechrau yn mis Medi ac yn dirwyn i ben tua'r Nadolig.

Albion DS10

         

Rhidyllu corgimychiaid / Riddling prawns

November

15th - The scalloper "Albion" DS10 fishing for scallops in Cardigan Bay.

23rd - Potting for prawns (Palaemon serratus) off Afonwen, North Tremadog Bay. Usually, this fishery begins in September and comes to an end about Christmas.

Rhagfyr

Mis digon ystormus gyda gwyntoedd cryfion a llawer o law

Elyrch ar y llifogydd ar Forfa Penrhos / Swans on floodwater on Penrhos saltmarsh

December

A stormy month with strong winds and heavy rainfall.

 

Top

 

Cartref        Home

 

Hawlfraint/Copyright © Cimwch.com 2007