Cimwch.com
Dyddiadur 2006
2006 Diary
Dyma ddyddiadur o'r gweithgareddau ym mhysgodfeydd Llŷn yn ystod 2006.
Here is a diary of activities in the fisheries of Llŷn during 2006.
Cliciwch ar y lluniau i'w gwneud yn fwy / Click on photos to enlarge.
Ionawr Daliwyd perdysen fantis (Rissoides desmaresti) mewn cawell corgimychiaid ger Aberdaron. |
Tonnau/n torri - Tŷ'n Tywyn - Breaking waves |
January A mantis shrimp (Rissoides desmaresti) was taken in a prawn pot set off Aberdaron. |
Chwefror Bu Chwefror yn fis oer ond ni chafwyd fawr o eira ar fynyddoedd Eryri tan ddiwrnod dweutha'r mis. |
Pwllheli o/from Foel y Welgi - 28/2/06 |
February February has been a cold month but there was little snow on the mountains of Snowdonia until the very last day of the month. |
Mawrth Parhau am wythnos gynta'r mis wnaeth y tywydd oer. Roedd ychydig o rwydo traeth ond mae'r môr yn parhau'n oer. 30ain - Llanw uchel gyda gwynt cryf o'r de orllewin. Dim yn aml y gwelir pont yr Hafan, Pwllheli yn wastad. |
Bae Llanbedrog - 4/3/06 Yr Hafan - Pwllheli - Marina |
March The cold weather lasted for the first week of the month. There was a little beach netting but the sea remains cold. 30th - High tide with a strong south westerly wind. Pwllheli Marina walkway is not often horizontal. |
Ebrill 13eg - Gwelais y wennoliaid am y tro cyntaf eleni. 15ed - "Angharad" BS7 yn treillio cregyn bylchog ger arfordir gogleddol Llŷn. 19eg - Clywais y gôg am y tro cyntaf eleni. Roeddwn yn tynnu'r llun hwn o Nantgwrtheyrn. |
Angharad BS7 Nantgwrtheyrn |
April 13th - I saw my first swallows of the year. 15th - "Angharad" BS7 scallop dredging off the north coast of Llŷn. 19th - I heared the cuckoo for the first time this year. I was taking this photo of Nantgwrtheyrn. |
Mai 3ydd - Dau forlo llwyd yn torheulo ym Mhorth Gwylan. 9ed - Tywydd cynnes, stêm yn codi oddi ar y gwymon ym Mhorth Golmon. 14eg - Wrth redeg yn gynnar y bore yma ar draeth Tŷ'n Tywyn, gwelais ddau granc heglog (Maja squinado) yn cerdded o'r môr. 28ain - Dilyn yr hen draddodiad a chodi 4.30 y bore i lymriata (dal llymriaid) ar draeth Tŷ'n Tywyn. Mân iawn oedd y llymriaid ac wedi awr a hanner o balu fe gawsom tua dwsin o rai digon mawr i'w bwyta. Fe daethom ni ar draws y ddau gymeriad yma yn y tywod - cranc a chranges heglog (Maja squinado). |
Morloi llwydion / grey seals, Porth Gwylan Creigiau - Porth Golmon - Rocks Llymriata / Sandeeling Crancod heglog / Spider crabs |
May 3rd - Two grey seals sunbathing at Porth Gwylan. 9th - Warm weather, steam rising from the seaweed at Porth Golmon. 14th - Whilst I was running on Tŷ'n Tywyn beach early this morning, I saw two spider crabs (Maja squinado) walking up the beach from the sea. 28th - Followed the ancient tradition and rose at 4.30 a.m. to catch sandeels on Tŷ'n Tywyn (The Warren) beach. The sandeels were very small and after an hour and a half of digging we had about a dozen that were large enough to eat. We came across these two characters in the sand - a male and a female spider crab (Maja squinado). |
Mehefin 8ed - Ar adegau, gorweddir niwl y bore cynnar yn garped ar iseldir Llŷn tra mae'r bryniau yn mwynhau haul disglair. Deffrais 4 o'r gloch y bore er mwyn mynd i fynu i'r Rhiw i dynnu'r llun hwn o'r niwl yn gorchuddio Bae Ceredigion. 9ed - Llymriaid marw yn harbwr Trefor. O dro i dro gwelir haig o lymriaid wedi marw. Byddant un nai wedi cael eu gyrru i'r lan gan haig o bysgod mwy neu, yn ystod tywod poeth, byddent yn mygu yn y tywod ger y lan pan fydd yr ocsigen yn y dŵr yn brin. 25ain - Dim ym mhen Llŷn ond yn ddigon agos. Bu achos o lygredd yn Afon Menai. Gwelid olew ar hyd llinell y llanw rhwng Caernarfon a'r Felinheli. |
Mynytho a Bae Ceredigion - Niwl y bore / Morning fog
Llymriaid marw / Dead sandeels
Llygredd / Pollution - Afon - Menai - Strait |
June 8th - Occassionally the early morning fog covers lowland Llŷn while the hills enjoy clear sunshine. I woke at 4 a.m. to go up to Rhiw to take this photograph of the fog covering Cardigan Bay. 9th - Dead sandeels in Trefor harbour. From time to time shoals of dead sandeel are seen. They have either been driven ashore by a shoal of larger fish or, during hot weather, they are asphyxiated in the sand when there is a drop in oxygen levels in the water close to the shore. 25th - Not strictly the Llŷn Peninsula but near enough. There was a pollution incident on the Menai Strait. Oil was seen along the tide line between Caernarfon and Portdinorwic. |
Gorffennaf 4ydd - Lansiwyd "Maria Stella" ym Mhwllheli. Fe gafodd ei dylunio a'i hadeiladu gan ei pherchenog, Colin Evans o Ynys Enlli ac Uwchmynydd. Defnyddir hi ar gyfer cludo nwyddau ar draws y Swnt i Enlli. 7ed - 8ed - Cafodd Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn ŵyl fwyd môr lwyddianus iawn ym Mhwllheli. Mynychwyd yr ŵyl gan dros 3,000 o ymwelwyr. 19eg - Heddiw oedd y diwrnod poethaf erioed gyda'r tymheredd yn cyrraedd dros 32˚C. 28ain - Golchwyd morgi trwynog (Lamna nasus) 7 troedfedd o hyd i'r lan ar draeth Morfa Bychan. |
"Maria Stella" Toriad gwawr, diwrnod poethaf - 19/7/06 - Daybreak, warmest day. |
July 4th July - "Maria Stella" was launched at Pwllheli. She is designed, built and owned by Colin Evans of Bardsey Island and Uwchmynydd and will be used to carry goods across the sound to Bardsey. 7th - 8th - Llŷn Inshore Fishermen's Association had a very successful Seafood Festival at Pwllheli. Over 3,000 visitors attended the event. 19th - Today was the warmest day on record with temperatures reaching over 32˚C. 28th - A 7ft long porbeagle shark (Lamna nasus) was washed ashore at Black Rock. |
Awst 8ed - Gweld y wawr dros Ynysoedd St Tudwal. 17eg - Ci môr mawr yn cael ei ddal yn Nhrwyn Cilan. 22ain - Porth Meudwy, Aberdaron. Cafodd dwy frywnas dra wahanol eu nodi a'u rhyddhau i'r môr. Roedd gan y gyntaf ddau fawd ar gyfer gwasgu. Fel rheol mae gan gimwch un bawd ar gyfer torri a bawd arall ar gyfer gwasgu. Roedd yr ail gimwch yn liw glas llachar. Dau fawd gwasgu / Two crusher claws |
Y wawr / dawn - Ynysoedd St Tudwal Larger spotted dogfish / Ci môr mawr
|
August 8th - Dawn off St Tudwal's Islands. 17th - A larger spotted dogfish or bull huss taken off Cilan Head. 22nd - Porth Meudwy, Aberdaron. Two very different female lobsters were V-notched and returned to the sea. The first had two crusher claws - lobsters usually have one claw that is adapted for cutting and another that is adapted for crushing. The second lobster was a vivid blue colour. Brywnas lâs / Blue berried hen lobster |
Medi 24ain - Dywedodd pysgotwr o Bwllheli iddo weld crwban mawr tua 8 troedfedd o hyd a thri pysgodyn haul (Mola mola) ger Afonwen. Mae hyn yn dilyn cyfnod o wyntoedd cryf o'r de. |
Ffrynt oer / Cold front |
September 24th - A Pwllheli fisherman reported seeing an 8ft long turtle and 3 sunfish (Mola mola) off Afonwen. This follows a period of strong southerly winds. |
Hydref 3ydd - Gwelwyd amryw o bysgod môr wedi marw yn harbwr Abersoch. Roedd lefelau ocsigen Afon Soch yn isel iawn. |
Mingryniaid marw / Dead mullet - Abersoch |
October 3rd - Several dead seafish were seen in Abersoch harbour. Oxygen levels in the River Soch were found to be very low. |
Tachwedd 26ain - Miloedd o Hwyliau'r môr (Velella velella) wedi dod i'r lan ar draeth Tŷ'n Tywyn rhwng Llanbedrog ac Abersoch. Rhywogaeth sydd yn byw yn y cefnfor yw ond daw i'r lan ym Mhrydain o dro i dro wedi cyfnod hir o wynt o'r De neu'r De Orllewin. Bydd Velella velella yn nofio ar y wyneb ac mae'r hwyl ar ei gefn yn ei alluogi i nofio i'r dde neu i'r chwith oddiwrth gyfeiriad y gwynt. |
Hwyliau'r môr / By-the-wind sailor (Velella velella), Tŷ'n Tywyn Hwyliau'r môr / By-the-wind sailor (Velella velella) |
November 26th - Thousands of "by-the-wind sailors (Velella velella) on the strand line between Llanbedrog and Abersoch. It is an ocean dwelling species but it arrives occassionally on British shores following long periods of southerly or south westerly winds. Velella velella floats on the surface and its sail enables it to sail to the left or to the right of the direction of the wind. |
Rhagfyr 7ed - Parhau mae'r gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm. 17eg - Wedi pum wythnos gostegodd y gwyntoedd cryfion o'r diwedd. |
Yr Eifl o'r/from Foryd Porth Neigwl / Hell's Mouth |
December 7th - The strong winds and heavy rain continue. 17th - After 5 weeks, the strong winds abated. |
Hawlfraint/Copyright © Cimwch.com 2006