Cimwch.com

 

Does dim maddeuant i rhyw gamgymeriad bach fel y darganfu Iain Solfach sydd yn pysgota o Borth Meudwy, Aberdaron.

Gwelwyd hon yn rhifyn Tachwedd 2003 o'r papur bro "Llanw Llŷn"

 

Iain Solfach a'r Tractor

Un diwrnod yn ystod Haf 2003,

Aeth Iain Solfach allan ar môr wyddoch chi,

Gan adael y tractor a'r trelar cwch ar y traeth'

A ffwr a fo am Enlli ddim tamad gwaeth,

Bu yn fanno am oria' yn hel cimwch a'r cranc,

Cyn troi nôl am Borth Meudwy a meddwl am y pres yn y banc,

Ond pan gyrhaeddodd geg borth fe sbiodd yn syn,

Doedd pethau ddim i fod fel hyn,

Canys roedd y tractor o dan y dŵr,

A meddai Iain, "Fisi ddim yn hir dwi'n siŵr."

Rwyf yn synnu Iain at bysgotwr fel chdi,

Ddim yn dallt trai a llanw ma siŵr gin i,

Os ydi mor fain a hynna ar foi tlawd fatha chdi,

Prynu llyfr teid i ti Dolig,

Dyna be na i.

 

                                            Iolo Williams

 

Cwch Iain heb y tractor.

 

Cof da sydd gan y beirdd gwlad ac ymddangosodd hon yn rhifyn Rhagfyr o "Llanw Llŷn."

 

Tecwyn Tanddwr

Aeth Ian am Enlli ryw ddiwrnod ar frys

Bron iawn heb gael amser i roi ei grys,

Pan ddychwelodd i'r Borth cafodd sioc ar ei dîn

Roedd y tractor o'r golwg fel "sydnamarine."

Roedd hon yn olygfa ddigalon, mae'n siŵr

Yr "exhaust" fel perisgôp allan o'r dŵr,

Ni soniodd yr un gair wrtha i am y gwall

Ninnau'n sgwrsio reit amal am naill beth a'r llall,

Mae'n siŵr bod o'n ddolur calon i dyn

Fedra fo feio neb, ond fo ei hun

Mi ddylai'r pysgotwr fod yn gwybod yn well,

Ond, pan gyll y call fe gyll yn reit bell.

                                       

                                                H.E. Williams

 

Top

 

Cartref        Home 

 

Copyright © Cimwch.com 2004