Cimwch.com

 

Jac Ben, pysgotwr enwog o Bwllheli a fyddai’i weld yn gwerthu bysgod o amgylch y dref.

BAE

Cewyll i’w cynnull a’r cwch

Yn ysu, nes i’w beswch

Drechu Jac Ben; edrychwr

Ydoedd o, ond holltai ddŵr,

A’i feddwl a’i rwyf wyddai

Bob hiraeth rhwng traeth a’r trai.

Rhwymai’r cwch tra moriai’r co’

A’i wêc oedd mwg ei faco.

Un siŵr o’i siwrnai heb siart,

Heb abwyd yn ei libart;

Dŵr hallt oedd troad ei rod

Ar dywydd fel dywod.

Hwyliau gwyn ar sianel gynt

A’i rwydi, segur ydynt;

Y chwa a’u sycha mae’n siŵr,

Eto ni ddaw pysgotwr

Dan ei hwyl; fe ŵyr dynhau

Ei wynt a’i angor yntau.

                                                                       

                                        Gareth Williams

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004