Cimwch.com

 

 

YR ARWYDDION TYWYDD

Cyn bod na radio na theledu roedd y gallu i ddarogan y tywydd yn bwysig iawn i bysgotwyr a ffermwyr Llŷn. Gwnaethant hyn drwy sylweddoli ar y newidiadau yn eu hamgylchfyd. Mae nifer o'r hen ddywediadau yma wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Ymwelwch âr dudalen hon yn aml oherwydd fe fyddaf yn cynnwys lluniau pan ddaw'r cyfle i'w tynnu.

 

WEATHER SIGNS

Before the advent of the radio or television, the ability to predict the weather was very important for the fishermen and farmers of Llŷn. They did this by observing changes in their surroundings. Many of these old sayings have been handed down from generation to generation.

Visit this page often as I will be including photos as and when the opportunities to photograph them arise.

 

 

ARWYDDION TYWYDD CYFFREDINOL

"Gweld Yr Iwerddon yn amlwg yn y bore a olyga dywydd mawr; ond gweled ei chwr deheuol yn eglur yn y prynhawn a olyga hin deg." (Myrddin Fardd)

 

"Os cyll y glaw o’r dwyrain daw,

Os cyll yr hindda o fanno daw hithau."

 

Cylch mawr o amgylch y lleuad – glaw yn agos,

Cylch fach o amgylch y lleuad – glaw ymhell.

 

Glaw cyn unarddeg - wedi clirio at y prynhawn,

Glaw cyn tri – bwrw drwy’r prynhawn.

 

Niwl

Niwl yn y gwanwyn – gwynt,

Niwl yn yr haf – gwres,

Niwl yn y gaeaf – gwas yr eira.

 

Sêm wen Cricieth

Sêm wen dros Gricieth yn y bore yn disgyn i lawr yn sydyn – glaw cyn amser cinio.

Sêm wen dros Gricieth yn codi i fynny – tywydd braf.

 

Dal penfras mewn cawell ym mis Mai – tywydd hegr, gwyntoedd cryfion yn ystod yr haf.

 

Ym mhen gorllewinol Llŷn wrth i law trwm gilio o’r gorllewin gelwid y darnau o awyr las sy’n ymddangos yn "dyllau tinnau Gwyddelod."

 

O Bengamfa, Llanbedrog:

Dail y coed yn troi at y mynydd, h.y. gwynt o’r gogledd – tywydd braf.

Dail y coed yn troi am i lawr, h.y. gwynt o’r de – glaw.

 

 

NIWL

Niwl y gwanwyn yn Swnt Enlli / Spring fog in Bardsey Sound

 

Niwl y gaeaf / Winter fog

 

SÊM WEN CRICIETH / CRICCIETH'S WHITE SEAM

Sêm wen Cricieth - y llinell gymylau syth uwchben y mynyddoedd / Criccieth's white seam - the straight line of cloud above the mountains.

Y sêm wen wedi diflanu/The white seam has disappeared.

 

GENERAL WEATHER SIGNS

"To see Ireland clearly in the morning is an indication of stormy weather, but to see its southern tip clearly in the afternoon is an indication of fair weather." (Translated from Myrddin Fardd).

 

"If the rain comes it will be from the east,

If fair weather comes it will also come from there."

 

A large circle around the moon – rain is near,

A small circle around the moon – rain is far away.

 

Rain before eleven – will clear before the afternoon,

Rain before three – it will rain all afternoon.

 

Fog

Spring fog – wind,

Summer fog – heat,

Winter fog – "snow’s servant."

 

Criccieth's white seam

If the "white seam" over Cricieth drops down, i.e. clouds come down – rain before lunch.

If the "white seam" over Cricieth lifts up – good weather.

 

Cod taken in lobster pots during May – strong winds during the summer.

 

On the western tip of Llŷn when heavy rain clears from the west, the patches of blue sky that can be seen are called "Irishmen’s arseholes."

 

From Pengamfa, Llanbedrog:

Leaves on the trees turning towards the mountain, i.e., northerly wind – good weather.

Leaves turning towards Llanbedrog village, i.e., southerly wind – rain.

 

 

ARWYDDION GLAW

Tir Meirionnydd i’w weld yn isel ac agos.

"Mae’r haul yn mynd i lawr rhwng y gist a’r pared, daw yn law yn fuan." (Myrddin Fardd), h.y. yr haul yn machlud dan gwmwl dudew.

 

"Pan gwynt o’r De a ddaw,

Y mae yn ngenau’r glaw."

(Myrddin Fardd)

 

"Pan fo’r Garn yn gwisgo’i chap,

Does fawr o hap ar dywydd."

 

Crëyr glas yn hedfan tua’r tir i "agor fflodiard."

Cymylau mawr gwyn (cumulonimbus) "pennau personiaid Bangor" yw gweld uwchben mynyddoedd Eryri.

Gwynt gorllewinol – "gwynt o ddrws y glaw."

Traeth awyr – "Awyr traeth, glaw drannoeth."

"Blew geifr, glaw geir."

"Ffust o dan yr haul" neu "grisiau'r glaw"

Un wylan yn gweiddi.

Cnocell y coed yn galw.

Wennoliaid yn hedfan yn isel ar ôl pryfed.

Ieir yn ymdrochi mewn tyllau y maent wedi eu crafu mewn pridd sych.

Ieir yn tynnu eu plu.

Yr halen a/neu'r siwgwr yn llaith yn y tŷ.

"Y lleuad yn boddi" i.e., mynd y tu ôl i gymylau tew – glaw cyn y bore.

 

"Haul gwyn gwan, daw’n law yn y man."

Haul fel "llygad ciw gwydd."

Haul fel "llygad ceiliog."

 

O Bengamfa, Llanbedrog:

Barrug yn codi’n sydyn yn y bore oddi ar do’r hen gwt mochyn – glaw cyn cinio.

Niwl yn codi o'r goedwig.

Haul gyda’r nos ar Machros, Meirionnydd yn unig.

Tŷ gwyn ar ochr mynydd ym Meirionnydd i’w weld yn glir. "Mae’r hen dŷ bach gwyn i’w weld."

Tywod sych i’w weld yn chwythu ar hyd glan y môr Llanbedrog - glaw yfory.

Llwybrau i'w gweld yn y môr oddiar Llanbedrog.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Garn Fadryn - yn gwisgo'i chap / wearing her cap.

 

 

 

 

 

 

 

Ffust o dan yr haul/Flails beneath the sun.

 

 

 

 

 

 

 

 

Haul gwyn gwan/Weak white sun.

 

 

 

Niwl yn codi o'r goedwig / Fog rising from the woods.

 

 

 

 

Llwybrau yn y môr / Paths in the sea.

 

SIGNS OF RAIN

The land of Meirionnydd appears low and close.

"The sun is setting between the chest and the wall, it will rain soon." (Myrddin Fardd), i.e. the sun sets behind a thick black cloud.

"When the wind comes from the south,

It is in the jaws of the rain."

(Myrddin Fardd)

 

"When the Garn wears her cap,

There will not be much weather."

A heron flying landwards to "open the floodgates."

Large white clouds (cumulonimbus) "Bangor parsons’ heads seen above the mountains of Snowdonia.

Westerly wind – "wind from the rain’s door."

"Beach sky, rain the following day."

"Goat’s hair, we’ll have rain."

"Flails" beneath the sun or "rain's stairway."

A single seagull calling.

Woodpecker calling.

Low flying swallows chasing flies.

Hens bathing in hollows scratched out of dry soil.

Hens pulling their feathers out.

The salt and/or sugar in the house is damp.

"The moon drowning" i.e. going behind thick clouds – rain before morning.

 

"Weak white sun, it will rain soon."

Sun like a "gosling’s eye."

Sun like a "cockerel’s eye."

 

From Pengamfa, Llanbedrog:

Morning frost lifting quickly from the old pigsty roof – rain before lunch.

Fog rising from the woods.

The evening sun shining only on Machros, Meirionnydd.

A white house on the side of a mountain in Meirionnydd can be seen clearly. "The little white house can be seen."

Dry sand to be seen blowing along the beach at Llanbedrog – rain tomorrow.

Paths to be seen in the sea off Llanbedrog.

 

ARWYDDION TYWYDD BRAF

"Gwynt o’r môr, hinion fydd."

Crëyr glas yn hedfan tua’r môr – tywydd sych.

Mwg yn codi’n syth i fyny o’r corn simdde.

Enfys lawn, hindda a gawn.

 

O Bengamfa, Llanbedrog:

"Yr adwy fawr yn agored" – sef, dim cwmwl rhwng Garn Fadryn a Garn Bodeuan gyda’r nos.

Y môr i’w glywed yn crafu yng ngheg y lôn i draeth Llanbedrog.

 

   

SIGNS OF GOOD WEATHER

"Wind from the sea, fair weather."

A heron flying towards the sea – dry weather."

Smoke rising up in a straight line from a chimney.

A whole rainbow, we'll have fine weather.

 

From Pengamfa, Llanbedrog:

"The large gap is open" – i.e. no clouds to be seen between Garn Fadryn and Garn Bodeuan in the evening.

Pebbles to be heared scraping on the beach at the entrance to the beach road.

 

ARWYDDION GWYNT

"Twrf ac aflonyddwch Porth Neigwl sy’n rhagfynegiad tra chywir o wynt gorllewinol." (Myrddin Fardd).

Bach Cilan yn crafu a ddynoda wynt o’r gogledd.

 

"Gwynt dwyrain wrth yr awr,

Gwynt gogledd wrth y dydd."

 

Cymylau "blew geifr" (cirrus)

Brain yn dod i lawr ar eu pennau.

Brain yn "codi balast ar gyfer y gwynt" - h.y. brain yn bwyta cerrig bach yn y caeau.

 

O Bengamfa, Llanbedrog:

Wiwerod llwydion ym mhen y coed.

Y môr i’w weld yn crafu ar draeth Llanbedrog ar ddiwrnod braf.

 

   

SIGNS OF WIND

"Disturbed seas at Hell’s Mouth is a fairly accurate prelude to westerly winds." (Myrddin Fardd).

Scraping sound of sand and gravel to be heared from Cilan Bight.

 

"An easterly wind blows by the hour,

A northerly wind blows by the day."

 

"Goats’ hair" (Cirrus) clouds. "Goats’ hair, we’ll have rain."

Crows diving steeply, head first.

Crows "lifting ballast to prepare for strong winds" – i.e. the crows in eating stones in the fields.

 

From Pengamfa, Llanbedrog – grey squirrels in the tree tops.

The sea, on a nice day, scraping on Llanbedrog beach.

 

 

 

ARWYDDION TYWYDD MAWR

Cyw’r ddrycin – rhan bychan o enfys.

Haul gyda’r nos yn gwneud i ffenestri’r caffi ar ben Yr Wyddfa ddisgleirio.

Mwg trên bach Yr Wyddfa i’w weld.

Defaid yn ymgasglu at ei gilydd.

Geifr gwyllt yn dod i lawr o'r mynyddoedd.

Yr awyr yn goch yn y bore.

 

O Lanbedrog:

Clywed Afon Sellar ar Draeth Castellmarch.

Clywed Porth Neigwl yn rhuo.

 

O Bengamfa, Llanbedrog:

"Haul ar yr hen fynydd bach tywydd mawr." – Haul ar Garn Saethon yn unig.

 

 

Cyw'r ddrycin / Storm's chick

Haul gyda'r nos ar gaffi Yr Wyddfa / Evening sun on Snowdon café

Awyr goch y bore / Red sky in the morning.

 

STORM INDICATORS

"The storm’s chick" – a short rainbow

The evening sun reflecting off the windows of the café on the top of Snowdon.

Steam from the Snowdon train to be seen.

Sheep huddled together in a field.

Wild goats coming down from the mountains.

Red sky in the morning,

Sailor's warning.

From Llanbedrog:

The Sellar stream to be heared on the Warren beach.

Hell’s Mouth’s roar to be heared.

 

From Pengamfa, Llanbedrog:

"Sun on the small storm mountain." i.e. the sun to be seen shining only on Garn Saethon.

 

 

ARWYDDION EIRA

Fflam las yn y tân.

Eira cyn Calan Gaeaf wedi’i erthylu, h.y. bydd dim llawer o eira drwy’r gaeaf wedyn.

Eira mân, eira mawr.

Eira mân, mwy ohonno.

 

Gwyneb cloc mawr Pengamfa i’w weld yn wynach nag arfer.

 

   

SNOW INDICATORS

A blue flame in the fire.

Snow before Calan Gaeaf (All Saints’ Day) is aborted, i.e. there will not be much snow for the remainder of the winter.

Fine snow, heavy snow.

Fine snow, more snow.

 

From Pengamfa, Llanbedrog – The face of the grandfather clock at Pengamfa appears to be whiter than usual.

 

ARWYDDION TERFYSG

Cymylau yn uchel yn yr awyr yn mynd yn groes i gyfeiriad y gwynt ar lawr.

Pla o sglefrod môr yn ystod yr haf.

 

   

INDICATORS OF THUNDER

The clouds high in the sky can be seen moving in the opposite direction to the wind on the ground.

A plague of jellyfish in the sea during the summer.

 

Top

 

Cartref        Home

 

Copyright © Cimwch.com 2004-2005